Neges o Groeso gan y Pennaeth

Croeso i wefan Ysgol Uwchradd Llanisien
“Rydym yn credu y gall pawb lwyddo”
Diolch am gymryd diddordeb yn ein hysgol. Mae llawer y gallwn ymfalchïo ynddo, a chredwn, er bod lle i wella bob amser, ein bod yn cynnig cyfleoedd rhagorol i’r bobl ifanc a’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.
Ysgol gyfun gymysg o bron 1700 o ddisgyblion ydym, gan gynnwys tua 300 o fyfyrwyr yn y Chweched Dosbarth. Gwasanaethwn nifer o gymunedau i ogledd Caerdydd, gan gynnwys Llanisien, Y Mynydd Bychan, Y Ddraenen Wen a Llysfaen. Daw’r rhan fwyaf o’n disgyblion o ysgolion cynradd ein talgylch; Cefn Onn, Coed Glas, Llanishen Fach,Llysfaen, Thornhill a Ton-yr-ywen. Daw rhai o’n disgyblion i’r ysgol o ganlyniad i geisiadau rhieni. Mae’r mwyafrif o’n grŵpiau blwyddyn yn orlawn.
Cefnogwn yn llwyr y fodel addysgol Gymreig gyfoes o beidio gorfod dewis bod yn ysgol arbenigol mewn maes penodol. Ein gobaith yw i anelu at ragoriaeth ymhob maes o’r cwricwlwm ac ymhopeth arall y gall ysgol ei ddarparu.
Rydym yn benderfynol o weithio’n gyson tuag at y pum Nôd Addysgol a nodir ar dudalen flaen y wefan. Gobeithiwn y gall y wefan hon gyfrannu at y nodau hyn, sef cynorthwyo dysgu ac o ganlyniad llwyddiant, rhannu cyrhaeddiadau a rhannu gwybodaeth. Mae’r wefan wedi gwneud cryn gynnydd, ond mae bob amser mwy i’w wneud a phrinder amser i’w wneud! Er hynny, croesawn unrhyw sylwadau adeiladol am y cynnwys neu’r cyflwyniad.